Dangos ochr arall i’r ddelwedd ‘dyn gwyllt’

MAE’R actor Rhys Ifans yn aml yn cael ei bortreadu yn y wasg fel dyn gwyllt ac anarchaidd. Ond mae portread ecsgliwisif ar S4C yn datgelu ochr sensitif, feddylgar ac angerddol i’r actor byd-enwog o Ruthun.

Mae’r rhaglen Prosiect: Rhys Ifans, sy’n cael ei darlledu nos Fawrth, yn gyfres o gyfweliadau dadlennol a gafodd y darlledwr a’r comedïwr Daniel Glyn hefo Rhys Ifans.

Y seren Hollywood ydi’r prif ddihiryn yn ffilm fawr 2012 – The Amazing Spiderman – ac fe dreuliodd Daniel gyfnod yn ei gwmni wrth iddo ffilmio ei ran, The Lizard.

Yn y cyfweliadau, mae Rhys yn sôn am ei fywyd, ei waith, ei grefft, a’r anturiaethau a arweiniodd at ei ran yn blockbuster mwyaf yr haf nesaf.

“Mae actio yn waith caled, anodd a’r oriau’n hir, er yn wych ar yr un pryd,” meddai Rhys.

“Dwi ddim isho cwyno’n ormodol pan mae nyrsys, ffermwyr ac athrawon allan yna’n gweithio oriau maith. Ond mae’n bwysig bod pobl yn gwybod bod y gwaith yn uffernol o galed. Fel actor, rhaid i ti dderbyn cael dy wrthod drosodd a throsodd – a chofio bod y carped coch jest yn para munud. Dwi ddim yn ’nabod yr un actor sy’n mwynhau’r carped coch beth bynnag.”

Ond mae Rhys hefyd yn datgelu faint mae wedi mwynhau’r her o actio yn The Amazing Spiderman.

“Wnes i ddim cyffroi gormod pan ges i’r rhan i ddechrau, fe fyddai hynny wedi ’ngwneud i’n uffernol o nerfus. Ond wrth ffilmio, ti’n sylweddoli cymaint o fwystfil ydi’r prosiect £160 miliwn yma. Dwi erioed wedi teimlo cweit fel hyn ar set o’r blaen – teimlo’r pwysau o orfod gwneud yn dda. Dwi’n gwybod bod y ffilm yn enfawr a bod yn rhaid i mi fod ar fy ngorau.”

Yn y rhaglen mae hefyd yn sôn am y profiad o chwarae rhan yn un o ffilmiau Harry Potter, portreadu’r comedïwr Peter Cooke, actio hefo’i hen ffrind Daniel Craig yn y ffilm Enduring Love, gweithio hefo’i frawd Llr Evans yn y ffilm Twin Town, ac am y noson wnaeth o gyfarfod Shirley Bassey yn Cannes.

Mae o hefyd yn datgelu ei ddyled i’r diweddar ddiddanwr ac actor Gari Williams wrth benderfynu yn hogyn wyth oed mai actor oedd o am fod.

“Ges i fynd i fyny i’r llwyfan o’r gynulleidfa mewn pantomeim yn Theatr Clwyd lle’r oedd Gari Williams yn serennu. Ges i deimlad anghyffredin i fyny ar y llwyfan, teimlad ’mod i isho bod yn ddewr a chamu allan o fyd cysurus plentyndod. Roedd yn foment wna i ddim anghofio,” meddai Rhys.

Mae Daniel Glyn wedi cyfweld cannoedd o bobl dros y blynyddoedd, ond wastad wedi bod eisiau gwneud cyfweliad hefo Rhys Ifans.

Meddai: “Wedi ugain mlynedd o swnian, a welodd Rhys yn gorfod newid ei rif ffôn bymtheg o weithiau, o’r diwedd fe ildiodd y seren Hollywood a chytuno i siarad hefo fi.

“Dwi’n gobeithio wrth wylio’r rhaglen y bydd gwylwyr yn sylweddoli bod Rhys yn bell o fod yn ‘ddyn gwyllt’ – chwedl y tabloids – a bod ei lwyddiant yn ysgogiad i unrhyw actor neu gomedïwr ifanc i weithio’n galed.”

He is often portrayed as a ‘wild man’ in the media but an exclusive S4C portrayal of Rhys Ifans from Ruthin on Tuesday reveals the sensitive, thoughtful and passionate side of the world-famous actor who plays the main villain in the big film release of 2012 – The Amazing Spiderman. The documentary Prosiect: Rhys Ifans is a series of revealing interviews with broadcaster and comedian Daniel Glyn.